Adeiladu, cynnal ac atgyweirio perthnasoedd.
Mae Wales Restorative Approaches Partnership (WRAP) neu Partneriaeth Dulliau Adferol Cymru yn gwmni sydd yn annog menter cymdeithasol unigryw ac sy’n gymuned nid er mwyn elw. ‘Rydym yn staff ac asiantaethau sydd gyda blynyddoedd o brofiad wrth ddatblygu dulliau adferol. Cynigiwn hyfforddiant, ymgynghoriad, ac ymarfer arbenigol ar hyd Cymru a’r Deyrnas Unedig. Cefnogwn greu, cynnal a gwella perthnasau o fewn pum maes gwasanaethu: Cyfiawnder troseddol, addysg, teuluoedd, cymunedau a busnes. Mae WRAP yn anelu i ymbweru defnyddwyr gwasanaethau i greu eu datrysiadau i broblemau a niwed. Rydym yn medru cynorthwyo gyda nifer helaeth o ddulliau adferol, a hynny mewn partneriaeth bob tro. Credwn y gall dulliau adferol drawsnewid amgylchiadau sydd yn heriol i sefyllfa o ddysgu gydol oes effeithiol, gan osgoi a datrys gwrthdaro yn effeithiol. Mae WRAP yn credu’n gryf mewn cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal a chyfiawnder troseddo, adeiladu cyfalaf cymdeithasol yn adferol ac yn gynaladwy; a datblygu cymunedau positif gyda perthnasau iach.
Ein Sectorau
Mae cyfiawnder adferol yn ffordd gytbwys a thrawiadol o ddatrys problemau’n ddiogel ac yn effeithiol.
Dysgu mwy
Cyfiawnder Troseddol
Pan fydd perthnasoedd yn dda, rydym yn gallu llewyrchu a chyfranogi’n llawn.
Dysgu mwy
Addysg
Mae teuluoedd yn dibynnu ar eu perthnasoedd i gael bod yn hapus, yn iach ac yn wydn.
Dysgu mwy
Teuluoedd
Bydd angen i gymunedau barhau i adeiladu, cynnal ac atgyweirio eu perthnasoedd.
Dysgu mwy
Cymunedau
Mae busnesau effeithiol yn gofalu am eu gwerthoedd a’u perthnasoedd
Dysgu mwy
Busnes
Bydd gweithredu adferol yn cael effaith ble bynnag y bydd angen i bobl weithio’n dda gyda’i gilydd.
Dysgu mwy
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Gall pob sefydliad elwa o fod â gweithredu adferol yn rhan o’i strategaeth.
Dysgu mwy
Sefydliadau eraill