Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon rydych yn rhoi eich caniatâd i gwcis gael eu defnyddio.

Mae Anthony a Julia yn siaradwyr rhagorol ac yn sicrhau bod y cwrs yn hwyl ac yn dal sylw pawb.

Coastal Housing

Torri rhwystrau i lawr, adeiladu pontydd

Mae WRAP (Partneriaeth Dulliau Adferol Cymru)Wales  yn hwb arfer orau yng Nghymru.   Mae WRAP yn gwmni sy’n buddsoddi mewn cymunedau,  ac yn cydweithio gyda nifer o randdeiliaid er mwyn sicrhau’r strwythurau mwyaf addas i gydweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth.     

Mae dulliau adferol yn ethos arbennig sydd yn creu ffordd wedi ei selio ar werthoedd penodol er mwyn gweithio gyda pobl, yn hytrach nag iddyn nhw neu drostynt hwy.  Mae’n hybu egwyddorion a meddylfryd arbennig sydd yn medru creu newid diwyllianol yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy.

Nôd dulliau adferol yw i greu, cynnal a chadw perthnasau.  Mae bod yn adferol yn golygu bod penderfyniadau yn medru cael eu gwneud a gwrthdaro yn cael ei ddatrys trwy’r rhai sydd yn effeithio arnynt yn uniongyrchol.  Nôd y dulliau yw i gofleidio ymyraethau cynnar, atal ac ymateb a chynnwys ffocws ar atebolrwydd a chyfrifoldeb, bod yn agored, parch a chynhwysiant.

Beth yw gweithredu adferol?

Golyga Cyfiawnder Adferol (CA) ymateb i wrthdaro a niwed.  Mae CA yn golygu gweithio gyda’r rhai sydd wedi eu niweidio gan drosedd, a’r rhai sy’n gyfrifol am y drosedd, i gysylltu gyda’i gilydd, a sicrhau bod y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiad yn medru edrych i’r dyfodol wedi i’r niwed gael ei ddatrys.

Mae Dulliau Adferol (DA) yn cynnwys defnyddio sgiliau beunyddiol wrth osgoi niwed a gwrthdaro.  Mae’n  datblygu a chynnal perthnasau a chymunedau, yn ogystal ag ymateb pan fo pethau yn mynd o’i le.  Mae DA yn datblygu perthnasau positif a chymunedau gwydn, yn lleihau niwed, ac yn lleihau gwrthdaro yn gyflym trwy ddatrys problemau yn sydyn ac yn effeithiol.

Wele restr o’r materion sy’n medru cael eu gwella o fewn cymunedau, teuluoedd a sefydliadau wrth ddefnyddio dulliau adferol:

  • Perthnasau
  • Cwrdd ag anghenion
  • Ymgysylltu a chyfranogi
  • Ymddygiad heriol
  • Lleihau gwrthdaro – proffesiynol neu personol
  • Lleihau troseddu ac aildroseddu
  • Ymgysylltu gyda dioddefwyr a chreu boddhad
  • Sgiliau a hyder i leihau gwrthdaro yn effeithiol
  • Diogelwch a harmoni mewn grwpiau a chymunedau
  • Datrys probemau o fewn partneriaethau
  • Trawsnewid awyrgylch gwaith am amgylchedd

 

https://www.youtube.com/watch?v=qsAboiPL7lQ