Gwasanaethau Darparu a Chymorth
Mae angen amser a chyfleoedd i fagu profiad ynghyd â hyfforddiant uchel ei safon i gael dod yn ymarferydd adferol diogel ac effeithiol.
Gallwn gynnig hyfforddiant sicr ei ansawdd a chyfleoedd i ymarfer mewn amgylchedd diogel. Mae ymarferwyr adferol achrededig profiadol iawn gennym yn rhan o’n tîm a all wneud y gwaith hwyluso i chi, neu fodelu a chyd-hwyluso pan fyddwch chi’n ymarfer ac yn adeiladu eich sgiliau a’ch profiad chi eich hun.
Gallwn gynnig darparu a chefnogi’r canlynol, p’un ai y bydd hynny ar ffurf gwasanaeth hwyluso neu ar ffurf hyfforddiant a chyd-hwyluso i adeiladu sgiliau cynaliadwy dros gyfnod sylweddol o amser:
- Cyngor ac arweiniad ar les i sefydliadau ac unigolion
- Goruchwylio staff a gwirfoddolwyr mewn modd adferol
- Hyfforddi a modelu hunan-oruchwyliaeth a goruchwyliaeth cymheiriaid
- Datrys gwrthdaro
- Cyfryngu
- Sgyrsiau adferol
- Cyfarfodydd adferol
- Dulliau adferol gydag adnoddau dynol
- Cynllunio a gweithredu polisïau adferol
- Cyfarfodydd cyfiawnder adferol a’u gwaith paratoi
O gyfryngu mewn anghydfod rhwng cymdogion hyd at gadw pawb yn ddiogel ym mhob achos o niwed o ganlyniad i drosedd ddifrifol, rydym yn gymwys ac yn ddigon profiadol i gefnogi unigolion, teuluoedd, sefydliadau neu gymunedau.
Rydym yn cynnig gwasanaethau mewn lleoedd yn y gymuned ar draws Cymru.
Rydym yn cynnig cymorth i adeiladu sgiliau a hyder er mwyn i ymarfer adferol ddod yn gyraeddadwy a chynaliadwy.