Rydym yn cynllunio, yn cychwyn ac yn rhedeg neu’n cefnogi prosiectau.
Mae rhywbeth trawiadol gan weithredu adferol i’w gynnig ble bynnag y bydd angen i bobl a grwpiau weithio’n dda gyda’i gilydd. Mae Partneriaeth Gweithredu Adferol Cymru wedi gweithio’n llwyddiannus gyda sawl sefydliad sydd â gwaith yn amrywiol neu’n benodol, gan ymateb i anghenion adeiladu perthnasoedd, neu weithgaredd, er enghraifft plannu prosesau adferol o fewn arferion adnoddau dynol craidd, er mwyn adeiladu perthnasoedd gwaith iach ac er mwyn bod yn dechneg cyn cwynion ffurfiol .
Bydd croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn teimlo yr hoffech fod yn fwy adferol a byddem yn falch iawn i drafod posibiliadau er mwyn cwrdd â’ch anghenion penodol.
Mae tîm adferol Cymru yn ymwybodol o’r ymchwil, y datblygu a’r gwerthuso sy’n digwydd ar draws y byd ac yn dod â’r arferion gorau i Gymru a’r DU. Rydym yn gweithio gyda staff, aelodau cysylltiol a gwirfoddolwyr sy’n arbenigwyr sector ac mae ein tîm arweinwyr uwch yn cynnwys rheolwr prosiectau cymwysedig.
Rydym bob amser yn adnabod anghenion, neu’n gwrando ar y rheiny yn ein cymunedau sydd yn adnabod yr anghenion hynny, ac yna rydym yn cydweithio – yn hytrach nag yn cystadlu – gyda phobl eraill i gael hyd i atebion a’u gweithredu.
Pan gaiff angen ei adnabod, byddwn yn rhoi amser ac arbenigedd pro bono i ffurfio cynnig ar gyfer prosiect, i adeiladu partneriaethau arferion gorau ac i chwilio am gyllid.
Gall dull gweithredu adferol gyda phrosiectau adnabod y gwahaniaethau o ran dull rhwng prosiectau a rhaglenni. Gall wneud y gwahaniaeth cwbl angenrheidiol rhwng allbynnau cynhyrchion ffisegol a’r perthnasoedd llai pendant ond mwy allweddol, gwydnwch ac ymrymuso.
Gall y dull gweithredu wneud hunan-reoli prosiectau a rhaglenni yn fwy hygyrch i unigolion, i deuluoedd ac i gymunedau.
Bydd ein blogiau, astudiaethau achos a’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi ar ein prosiectau cyfredol a’r rhai sydd ar y gweill, a sut y gallwch gymryd rhan.
,
Gallwn reoli eich prosiectau gyda chi, neu ddarparu hyfforddiant fel y gallwch chi reoli eich prosiectau eich hun mewn ffordd adferol.
Mae Partneriaeth Gweithredu Adferol Cymru yn gweithio’n gydweithredol yn hytrach nag yn gystadleuol.