Gall ansawdd ein perthnasoedd yn ein cymunedau dysgu ac addysgu effeithio’n wirioneddol ar ein gallu i gael mynediad i addysg ac i wireddu ein potensial llawn.
Mae hyn yn wir am y dysgwyr a’r staff, ac am eu teuluoedd a’u cyumunedau ehangach. Pan fydd perthnasoedd yn dda, rydym yn gallu llewyrchu a chyfranogi’n llawn.
Mae tystiolaeth yn ein gwaith ni ein hunain gyda phartneriaid ar draws y DU ac yn rhyngwladol yn dangos dro ar ôl tro y gall dull adferol cyfan sy’n rhan annatod o sefydliad:
- Adeiladu perthnasoedd positif ac ymdeimlad o gymuned gyda dysgwyr, staff, teuluoedd ac asiantaethau
- Lleihau gwrthdaro wrth i bawb weithredu mewn ffyrdd cyson
- Lleihau gwaharddiadau
- Gwella presenoldeb a chyflawniad
- Datrys problemau’n gyflym ac yn effeithiol gyda’r holl bartneriaid
Mae staff WRAP yn gweithio mewn addysg a hyfforddiant gan ddefnyddio gweithredu adferol ers 15 mlynedd. Mae ein partneriaid yn amrywio o feithrin i goleg, ac ymyriadau mewn cyfiawnder oedolion a ieuenctid. Mae ein prif hyfforddwyr yn athrawon cymwysedig a phrofiadol o gyd-destunau cynradd, uwchradd a thrydyddol, ac mae ein haelodau cysylltiol yn cynnwys arweinwyr uwch ym myd addysg a chynghorwyr ysgol, llywodraethwyr ysgol, ac arolygwyr lles Estyn.
Rydym bob amser yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid addysg i sicrhau bod ein hyfforddiant a’n cymorth strategol wedi’u halinio i flaenoriaethau a chynlluniau ysgolion, felly mae ein darpariaeth bob amser yn benodol i’w hanghenion nhw. Rydym yn sicrhau cynaladwyedd a, hyd y gellir, yn hyfforddi a mentora staff allweddol i ddod yn hyfforddwyr yn y dyfodol unwaith y bydd digon o brofiad ymarferol ganddynt.
Bydd dysgwyr o bob oedran yn dysgu sgiliau newydd y gallan nhw eu defnyddio yn y cartref yn ogystal ag yn yr ysgol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda phob un o’n partneriaid addysg, gan gynnwys athrawon a dysgwyr.