Mae hyfforddiant arweinyddiaeth adferol yn rhoi cyfleoedd i Reolwyr gael ystyried sut byddan nhw’n gweithredu’n adferol a sut byddan nhw’n cynorthwyo eu timau gyda pholisïau ac ymarfer.
Mae angen sgiliau ymatebol a chyson ar arweinwyr a rheolwyr effeithiol ynghyd â llythrennedd cymdeithasol ac emosiynol i adeiladu, cynnal ac atgyweirio perthnasoedd gyda phob rhanddeiliad busnes.
Mae timau effeithiol yn cyfathrebu’n dda, yn cynnal cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar atebion, ac sy’n gallu trafod a chytuno ar wahaniaethau lefel isel a datrys gwrthdaro eu hunain, gan arfer parch.
Mae WRAP wedi cynnig hyfforddi ac ymgynghori i fusnesau yn y gymuned ac yn y sectorau cyhoeddus a phreifat gan ddefnyddio gweithredu adferol. Gallwn gynnig hwyluso a hyfforddi di-duedd ac annibynnol er mwyn ymdrin â’r canlynol:
- Anghenion a thechnegau ar gyfer adeiladu timau a datrys gwrthdaro mewn timau
- Rheoli llinell, gan gynnwys goruchwylio, datrys problemau a delio â gwrthdaro a chwynion
- Ymgynghori a chyfarfodydd effeithiol rhwng y staff a defnyddwyr gwasanaethau
- Rheoli yn seiliedig ar werthoedd
- Delio â newid a heriau sy’n seiliedig ar berthnasoedd sy’n arfer parch
Mae tîm WRAP yn cynnwys Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr busnesau, arweinwyr timau, hyfforddwyr a rheolwyr o amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys addysg, gwasanaethau awdurdodau lleol, y gyfraith, cyfiawnder troseddol a diogelwch cymunedol, yswiriant a mentrau cymdeithasol.
Mae’r holl wasanaethau yn rhai sy’n benodol i’r anghenion, felly cysylltwch â ni i drafod sut gallwn weithio gyda chi.
Mae cymorth strategol ynghyd â sicrwydd ansawdd yn hanfodol i gynnal cyflawni effeithiol.