Atgyweirio Cymunedau
Astudiaeth Achos
Yn gynharach eleni, gofynnwyd i Bartneriaeth Gweithredu Adferol Cymru hwyluso proses adferol ar gyfer anghydfod cymunedol. Fe wnaeth Tammi, ein gweithiwr ar gyfer achosion cymhleth a sensitif, arwain yr astudiaeth a chwrdd â’r holl bartïon cysylltiedig, sef 11 o bobl i gyd. I ddechrau fe wnaeth Tammi gyfarfod â phob cyfranogwr ar wahân, rhai ohonynt nifer o weithiau, i gael gwrando’n gyntaf ar stori pob person, cael gweld a oedden nhw am gymryd rhan ac yna eu paratoi am gyfarfod wyneb-yn-wyneb. Drwy gydol y gwaith paratoi, gofynnodd Tammi yr un cwestiynau i bob person, sef:
“Beth ddigwyddodd?”
“Beth oedd yn eich meddwl ar y pryd a sut roeddech yn teimlo?”
“Ar bwy arall roedd hyn wedi effeithio a sut?”
“Beth sydd ei angen arnoch?”
“Beth fydd eisiau digwydd yn eich barn chi i gael symud ymlaen?”
Yn yr achos yma, roedd angen ymdrin â phroblemau yn amrywio o anghydfod teuluol hyd at broblemau yn y gymdogaeth ynglŷn â grwpiau gwirfoddoli. Felly, cytunwyd y byddai’r cyfarfod yn canolbwyntio’n unig ar anghydfod y grwpiau gwirfoddoli ac y byddem yn ymdrin â’r broblem deuluol rywbryd arall. Yn ystod y cyfarfod gofynnodd Tammi yr un cwestiwn eto i bob person a rhoddodd le i’r cyfranogwyr gael siarad yn adeiladol. Un tro, roedd angen i un cyfranogwr gael seibiant oherwydd yr emosiwn dwys roedd yn ei deimlo ond ail-gydiodd yn y cyfarfod yn nes ymlaen. Erbyn y diwedd, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr wedi cytuno i gael hyd i ffordd ymlaen a oedd y tro hwnnw yn golygu rhannu’r grwpiau mewn ffordd gyfeillgar a rhyngweithio mewn ffyrdd a fyddai’n arfer parch yn y dyfodol. Oddi ar y cyfarfod, ni wnaeth unrhyw broblemau ail-godi ac mae pob un o’r partïon yn hapusach.