Mae cyfiawnder adferol yn ffordd gytbwys a thrawiadol o ddatrys problemau’n ddiogel ac yn effeithiol.
Mae cyfiawnder adferol yn cael y rhai y mae trosedd neu wrthdaro wedi’u niweidio a’r rheiny fu’n gyfrifol am y niweidio, i gyfathrebu â’i gilydd ac yn galluogi pawb y gwnaeth rhyw ddigwyddiad penodol effeithio arnynt, i fod â rhan yn atgyweirio’r niwed a chael hyd i ffordd bositif ymlaen. Mae hyn yn rhan o faes ehangach o’r enw ymarfer neu weithredu adferol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae systemau cyfiawnder ieuenctid y DU, ac yn fwy diweddar systemau cyfiawnder oedolion, wedi codi nifer y cyfleoedd ar gyfer ymyriadau adferol ar draws y sectorau, o ymddygiad gwrth-gymdeithasol hyd at waith mewn carchardai. Mae’r Cod Dioddefwyr yn golygu bod hawl gan ddioddefwyr i ofyn am gyfiawnder adferol diogel, sicr ei ansawdd, lle bydd hwnnw ar gael, ar gyfer pob trosedd. Mae Partneriaeth Gweithredu Adferol Cymru yn credu y dylai cyfiawnder adferol, a dulliau adferol ehangach, fod ar gael i bawb y bydd niwed wedi effeithio arnynt ac y dylai ymyriad fod yn benodol ar gyfer anghenion y bobl berthnasol.
Rydym yn credu y dylai sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau adferol fod wedi sicrhau ansawdd er mwyn sicrhau ymarfer diogel ac effeithiol. Oherwydd hyn, mae Marc Ansawdd Gwasanaethau Adferol oddi wrth y Cyngor Cyfiawnder Adferol gan WRAP – WRAP yw’r unig asiantaeth gwasanaethau adferol yng Nghymru sydd â’r Marc hwn. Rydym yn aelodau o’r Cyngor Cyfiawnder Adferol ac yn cadw ei safonau a’i ganllawiau i gyd.
Mae pob un o’n hymarferwyr cyflawni yn aelod cysylltiol o’r Cyngor Cyfiawnder Adferol ac mae statws ymarferwyr achrededig y Cyngor gan ein prif ymarferwyr.
Mae ein tîm yn cynnwys arweinwyr strategol, ymarferwyr a hyfforddwyr, cyn-droseddwyr a dioddefwyr, â phrofiad helaeth o garchardai ac ymyriadau adferol yn seiliedig ar ddiogelwch yn y gymuned. Gallwn weithio gydag achosion sensitif a chymhleth, gan gynnwys cam-drin yn y cartref. Rydym yn cynnig pob agwedd o waith adferol cyfiawnder troseddol, gan gynnwys cynllunio a chyflawni ymyriadau a rhaglenni penodol, datblygiad strategol, a gweithio mewn partneriaeth.
Cylch yn y carchar