Bydd angen i gymunedau – o’r gweithgor lleiaf i’r gymdogaeth fwyaf – adeiladu, cynnal ac atgyweirio eu perthnasoedd yn gyson er mwyn byw ochr yn ochr â’i gilydd gan arfer parch.
Mae gweithredu adferol yn cynnig egwyddorion ac amrywiaeth o dechnegau effeithiol ar gyfer:
- Adeiladu cydlyniad a diogelwch mewn cymunedau
- Sicrhau cyfranogiad a chynhwysiad llawn a gweithredol wrth rannu syniadau, gwneud penderfyniadau a datrys problemau gyda’n gilydd
- Datrys gwrthdaro ac adeiladu perthnasoedd yn dilyn niweidio, e.e. ymddygiad gwrth-gymdeithasol, anghydfod rhwng cymdogion, neu berthynas rhwng defnyddwyr gwasanaethau ac asiantaethau yn torri i lawr.
Gallwn gynnig gwasanaeth annibynnol di-duedd, yn benodol i’r anghenion, i hyfforddi, mentora neu gyflawni gweithredu adferol ar gyfer staff a/neu ddefnyddwyr gwasanaethau.
Cysylltwch â WRAP i drefnu cyfarfod i gael trafod sut gallwn helpu i foddhau eich anghenion penodol.
Mae gweithredu adferol yn ddull effeithiol o ran perthnasoedd a gwydnwch cymunedau.
Gall problemau mewn amgylchedd ysgol neu waith fod yn gysylltiedig yn annatod â phroblemau o fewn teuluoedd ac o fewn y gymuned.