Mae Gweithredu Adferol yn gallu gweithio mewn unrhyw gyd-destun. Pan gaiff ei fabwysiadu ar draws sefydliad, gwelir y canlyniadau gorau a rhai fydd yn aros.
Mae llawer o sefydliadau ac asiantaethau , staff ym maes addysg, gweithwyr proffesiynol ym meysydd ieuenctid, iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU ac yn rhyngwladol eisoes yn defnyddio’r athroniaeth adferol hon gan ei bod yn ymwneud ag ymarfer gorau effeithiol. Mae’n bwysig cofio bod Gweithredu Adferol yn ymwneud â ffordd sefydliad cyfan o weithio ac ethos y sefydliad – y staff, y cleientiaid a phob un o aelodau amrywiol cymunedau. Gall hwyluso newid diwylliant sefydliad yn raddol dros amser, pryd y bydd cysondeb o ran gwerthoedd, ymarfer a pholisïau. Mae cymorth strategol ynghyd â sicrwydd ansawdd yn hanfodol i gynnal cyflawni effeithiol.
Gall gynnig iaith a fframwaith cyson o ran sut mae systemau yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol.
Rydym yn cynghori bod hyfforddiant yn dechrau gyda’r rheolwyr ac rydym yn cynnig cymorth yn ystod yr hyfforddiant hwn, ac wedi hynny, i edrych ar bolisi, strategaeth a gweithredu. Mae’r dull sylfaenol hwn yn effeithiol o ran sicrhau cynaladwyedd. Mae rheoli adferol yn fodel rheoli emosiynol er mwyn lleihau’r straen ar reolwyr a staff. Mae’n canolbwyntio ar atebion a datrys problemau.
Yna bydd yr hyfforddiant yn symud i dîm craidd y sefydliad ac yn cyflawni dysgu drwy brofiad lle y bydd pawb yn cymryd rhan mewn ffordd gyfartal. Gellir ail-adrodd y dysgu gwerthoedd-seiliedig hwn y tu hwnt i brofiadau tîm a chleient mewn meysydd eraill gan gynnwys goruchwylio, gwerthuso, cwynion a disgyblu. Mae hyn, sy’n ymarfer ynddo’i hun, yn anhygoel ar gyfer adeiladu tîm, heb sôn am y manteision parhaus.
Mae rhan allweddol o’n hyfforddiant yn cynnwys ymgymryd â sgyrsiau anodd. Gall hyn galonogi a sicrhau perthasoedd da hyd yn oed pan fydd gwrthdaro anochel sy’n rhan o’r natur ddynol yn codi.
Mae gweithio’n adferol yn mabwysiadu ystod o brosesau a sgiliau craidd ymarferol y gellir eu datblygu drwy hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus. Gall gynnig ymagwedd a fframwaith cyffredinol ynghyd â iaith syml ar gyfer cydweithredu aml-asiantaeth, ymgysylltiad cyson â chleientiaid, gan alluogi datrys problemau cynhwysol ar gyfer pob parti a fydd yn gysylltiedig â phroblem.
Mae’r ymagwedd hon yn defnyddio egwyddor disgyblaeth gymdeithasol o gynhorthwy a her uchel wrth ryngweithio â chleientiaid a staff. Y diben yw gweithio’n gydweithredol i foddhau anghenion pob unigolyn ond nid ar draul anghenion neb arall. Mae pawb yn atebol ac yn gyfrifol am effaith eu hymddygiad ac am benderfynu’r canlyniadau a fydd yn datrys pethau er mwyn symud ymlaen.
Gall eich cwsmeriaid elwa o fod â pherthynas well eto â’ch tîm a’i gynhyrchion a’i wasanaethau. Bydd llai o wrthdaro a lle bydd unrhyw wrthdaro yn codi, sy’n beth digon naturiol, bydd modd delio â fe mewn ffordd iach fel y bydd pawb yn cael dweud eu dweud ac yn rhan o gyrraedd cytundebau SMART ar ôl cael siarad.