Mae teuluoedd yn dibynnu ar eu perthnasoedd i gael bod yn hapus, yn iach ac yn wydn. Pan fydd perthnasoedd yn dda, mae’r cartref yn fan lle y gallwn fod ar ein gorau.
Mae gwrthdaro yn rhan arferol o bob rhan o fywyd teuluol, ac mae’n rhan o berthnasoedd dynol. Ond, heb sgiliau a gwerthoedd priodol, gall gwrthdaro fydd heb ei ddatrys rwygo perthnasoedd mewn teuluoedd i raddau gwahanol a chreu straen ym mywyd y cartref. Gall problemau gartref effeithio ar berthnasoedd yn yr ysgol, yn y gwaith neu gydag asiantaethau eraill. I rai teuluoedd, gall y ffordd y byddan nhw’n ymdopi â niwed fod yn gamdriniol a gall beri niwed difrifol, er enghraifft lle mae cam-drin yn y cartref rhwng unrhyw aelod o’r teulu neu rwng llawer ohonyn nhw.
Gall gweithredu adferol helpu i drafod problemau’n ddiogel gan arfer parch, gan sicrhau y gall pawb sydd wedi’u heffeithio gael dweud eu dweud a bod yn yrwyr yr atebion gorau i’w problemau eu hunain. Rydym yn credu mai teuluoedd yw’r arbenigwyr ar eu teuluoedd eu hunain. Mae WRAP yn cynnig offer adferol syml y gallan nhw barhau i’w defnyddio i gyfathrebu’n well ac i ddatrys problemau’n effeithiol eu hunain.
Mae tîm WRAP yn cynnwys staff sydd â phrofiad sylweddol ac eang o weithio gyda theuluoedd a pherthnasoedd drwy ddefnyddio gweithredu adferol, technegau magu-plant adferol, dulliau cyfathrebu di-drais, ac ymyriadau therapiwtig.
Mae WRAP hefyd yn rhan o gonsortiwm sy’n cynnig rhaglen ar gyfer teuluoedd sy’n byw gyda cham-drin yn y cartref, o’r enw Dewisiadau ar gyfer Newid / Choices for Change. Mae’r holl waith gyda theuluoedd yn benodol i’w hanghenion, felly cysylltwch â WRAP i gael trafod ymhellach.
Gall teuluoedd ffynnu drwy ddysgu a defnyddio sgiliau adferol.
Rydym yn gweithio’n gydweithredol ac yn adferol gyda theuluoedd i ganfod ac i ddefnyddio’u cryfderau.